Pam gweithio gyda ni?

Mae gweithio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion gymaint yn fwy na swydd yn unig – rydyn ni’n darparu cyfleoedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau ein myfyrwyr. Rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu amgylchedd gwaith cefnogol ac ysbrydoledig ac yn ymfalchïo mewn creu diwylliant cynhwysol er mwyn meithrin a chyflawni’r deilliannau gorau posibl.

Rydyn ni’n ymroddedig i ddarparu profiad addysgol neilltuol i’n myfyrwyr, ac mae ein tîm brwdfrydig o staff addysgu a staff cymorth yn anelu at gyrraedd safonau uwch ar gyfer y Coleg, y sector, ac ar gyfer ein dysgwyr.

Ysbrydoli Dysgwyr
Cyflawni Potensial
Ennill Rhagoriaeth
Swyddi

“Dymunaf byddwn I wedi dechrau yn y coleg yn syth. Y cyflogwr gorau rydw I wedi gweithio iddo o bell fordd. Mae pawb yn caredig, cyfeillgar, siaradus ac yn cefnogi ei gilydd. Mae tîmau yn y coleg fel teulu. Sefydliad Tryloyw iawn. Awyrgylch hwyliog ac cyfeillgar. Ddlim eisiau gweithio yn unman arall.”

“Mae gweithio yn y sector AB yn rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol a thrawsnewid bywydau’r genhedlaeth nesaf. Trwy weithio mewn swydd o unrhyw fath yng Ngholeg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion byddwch yn helpu i ysbrydoli dysgwyr, datblygu sgiliau, creu cyfleoedd a sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial.”
Dr Andrew Cornish CEO/Principal, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Swyddi

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gweld unrhyw rolau yr hoffech ymgeisio amdanynt nawr. Cofrestrwch eich diddordeb er mwyn i ni allu cysylltu â chi pan ddaw rôl addas sy’n bodloni eich meini prawf.

Cofrestru Eich Diddordeb