Polisi Preifatrwydd

Mae Coleg Sir Gâr (“ni”) yn ymrwymedig i warchod a pharchu eich preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn nodi ar ba sail y bydd y data personol a gesglir gennych chi, neu’r data a roddwch i ni, yn cael ei brosesu gennym ni mewn cysylltiad â’n prosesau recriwtio.

 At ddibenion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (“GDPR”) y Rheolydd Data yw Coleg Sir Gâr.

 Rydym yn defnyddio Pinpoint, cynnyrch meddalwedd ar-lein a ddarperir gan The Infuse Group Ltd (t/a Pinpoint Software), i gynorthwyo gyda’n proses recriwtio.   Rydym yn defnyddio Pinpoint i brosesu gwybodaeth bersonol fel prosesydd data ar ein rhan. Dim ond yn unol â'n cyfarwyddiadau ni y mae gan Pinpoint hawl i brosesu eich data personol

 Pan fyddwch yn gwneud cais am gyfle a bostiwyd gennym ni, bydd y darpariaethau Hysbysiad Preifatrwydd hyn yn berthnasol i’n gwaith ni o brosesu eich gwybodaeth bersonol, yn ogystal â’n Hysbysiad Preifatrwydd arall sydd ar gael ar ein gwefan.

Eich Gwybodaeth Bersonol

Gwybodaeth a gasglwn gennych chi

Rydym yn casglu ac yn prosesu peth neu’r cyfan o’r mathau canlynol o wybodaeth gennych chi:   
·         Gwybodaeth rydych chi’n ei darparu pan fyddwch yn gwneud cais am rôl. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir trwy gais ar-lein, trwy e-bost, wyneb yn wyneb mewn cyfweliadau a/neu drwy unrhyw ddull arall. 
·         Yn benodol, rydym yn prosesu manylion personol megis enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau, profiad ac unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i hanes eich cyflogaeth, sgiliau a phrofiad rydych yn ei darparu i ni. 
·         Os byddwch yn cysylltu â ni, efallai y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno. 
·         Manylion eich ymweliadau â’n gwefan gyrfaoedd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddata traffig, data lleoliad a data cyfathrebu arall, y wefan a’ch cyfeiriodd chi at ein gwefan gyrfaoedd a’r adnoddau a ddefnyddir gennych.  

Gwybodaeth rydym yn ei chasglu o ffynonellau eraill

Mae Pinpoint yn darparu’r cyfleuster i ni gysylltu’r data a roddwch i ni â gwybodaeth arall sydd ar gael amdanoch chi’n gyhoeddus rydych wedi’i chyhoeddi ar y Rhyngrwyd - gall hyn gynnwys ffynonellau megis LinkedIn a phroffiliau cyfryngau cymdeithasol eraill.   

 Mae technoleg Pinpoint yn ein galluogi i chwilio cronfeydd data amrywiol, a all gynnwys eich data personol chi, i ddod o hyd i ymgeiswyr posibl i lenwi ein swyddi gwag.   Lle byddwn ni’n dod o hyd i chi yn y modd hwn byddwn yn cael eich data personol o’r ffynonellau hyn.  

Y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Rydym yn dibynnu ar fuddiant dilys fel y sail gyfreithiol ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol.  Ein buddiant dilys yw recriwtio staff ar gyfer ein busnes. 

Dibenion prosesu

Rydym yn defnyddio gwybodaeth a gedwir amdanoch chi yn y ffyrdd canlynol:
·         I ystyried eich cais mewn perthynas â rôl rydych wedi gwneud cais amdani. 
·         I ystyried eich cais mewn perthynas â rolau eraill. 
·         I gyfathrebu â chi mewn perthynas â’r broses recriwtio. 
·         I wella unrhyw wybodaeth a gawn gennych chi gyda gwybodaeth a gafwyd gan ddarparwyr data trydydd parti. 
·         I ddod o hyd i ymgeiswyr priodol i lenwi ein swyddi gwag. 
·         I helpu Pinpoint i wella eu gwasanaethau. 

Gwneud penderfyniadau / proffilio yn awtomatig

Mae'n bosibl y byddwn yn manteisio ar dechnoleg Pinpoint i'n helpu i ddewis ymgeiswyr priodol i ni eu hystyried yn seiliedig ar feini prawf a nodwyd gennym.  Mae’r broses o ddod o hyd i ymgeiswyr addas yn awtomatig.  Fodd bynnag, ein tîm fydd yn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch pwy y byddwn yn ei gyflogi i lenwi’r swydd wag.     

Sut rydym yn storio eich data personol

Diogelwch

Rydym yn defnyddio dulliau priodol i sicrhau bod yr holl ddata personol yn cael ei gadw’n ddiogel gan gynnwys mesurau diogelwch i atal data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol, neu rhag cael ei ddefnyddio neu gael mynediad iddo mewn unrhyw ffordd anawdurdodedig.  Rydym yn cyfyngu mynediad i’ch data personol i'r rheiny sydd ag angen busnes gwirioneddol i'w weld.  Bydd y rheiny sy’n prosesu eich gwybodaeth yn gwneud hynny mewn modd awdurdodedig yn unig ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.   
 
Yn ogystal mae gennym weithdrefnau ar waith er mwyn delio ag unrhyw  amheuaeth o dorri diogelwch data. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ac i unrhyw reoleiddiwr perthnasol am amheuaeth o dorri diogelwch data pan fo hi’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.    
 
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel.  Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir trwy unrhyw ddull ar-lein, felly mae unrhyw drosglwyddo ar eich risg eich hun.  

Ble byddwn yn storio eich data personol

Bydd y data a gasglwn gennych a’i brosesu gan ddefnyddio Gwasanaethau Pinpoint yn cael ei drosglwyddo a’i storio yn un o nifer o leoliadau canolfannau data yn Amsterdam (Yr Iseldiroedd) a gellir ei gysoni i un o nifer o leoliadau canolfannau data yn Llundain (y Deyrnas Unedig) at ddibenion gwneud copi wrth gefn ac afreidrwydd.  Drwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddo, storio neu brosesu hwn. 

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol

Rydym yn cadw data pob ymgeisydd am gyfnod o 48 mis o adeg y cais.  Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu trwy un o'r digwyddiadau canlynol:
·         Dileu eich gwybodaeth bersonol gennych chi drwy'r offeryn Rheoli Eich Data neu 
·         Ar dderbyn cais ysgrifenedig gennych chi atom ni. 

Eich hawliau

O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol mae gennych nifer o hawliau pwysig. Yn gryno, mae’r rheiny’n cynnwys hawliau i: 
·         gael mynediad i’ch data personol chi ac i wybodaeth atodol benodol arall y mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn eisoes wedi’i gynllunio i fynd i’r afael ag ef 
·         gofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn eich gwybodaeth sydd gennym 
·         gofyn am ddileu data personol amdanoch mewn rhai sefyllfaoedd 
·         gofyn am fynediad i’r data personol amdanoch yr ydych wedi’i ddarparu i ni, mewn fformat strwythuredig, cyffredin y gellir ei ddarllen gan beiriant ac mae gennych yr hawl i drosglwyddo’r data hynny i drydydd parti mewn rhai sefyllfaoedd 
·         gwrthwynebu i brosesu data personol amdanoch chi ar gyfer marchnata uniongyrchol ar unrhyw adeg 
·         gwrthwynebu i benderfyniadau gael eu gwneud drwy ddulliau awtomataidd sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol sy’n ymwneud â chi neu sy’n effeithio’n sylweddol arnoch yn yr un modd 
·         gwrthwynebu mewn rhai sefyllfaoedd eraill i ni barhau i brosesu eich data personol 
·         i gyfyngu fel arall ar brosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau 
·         hawlio iawndal am niwed a achosir oherwydd ein bod wedi torri unrhyw gyfreithiau diogelu data. 
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hynny, os gwelwch yn dda naill ai:
·         defnyddiwch yr offeryn Rheoli eich Data a ddarperir neu 
·         cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein manylion cyswllt isod, gan sicrhau bod gennym ddigon o wybodaeth i’ch adnabod, profi pwy ydych chi a’ch cyfeiriad a chadarnhau pa wybodaeth y mae eich cais yn ymwneud â hi 

Sut i gwyno

Gobeithiwn y gallwn ddatrys unrhyw ymholiad neu bryder sydd gennych ynglŷn â’n defnydd o’ch gwybodaeth.

 Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol hefyd yn rhoi hawl i chi gyflwyno cwyn gydag Awdurdod Goruchwylio, yn benodol yng ngwladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd) lle rydych yn gweithio, yn byw fel arfer neu lle digwyddodd unrhyw achos honedig o dorri cyfreithiau diogelu data.