Lucy Williams

Gweinyddwr Recriwtio AD

Beth rydw i'n ei wneud yn Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion

Ymunais i â Choleg Sir Gâr yn ystod Haf 2024 gan ddechrau fy nhaith Goleg yn y Gofrestrfa a’r tîm Arholiadau. Ers hynny rwyf wedi cael y cyfle gwych i symud ymlaen o fewn y coleg ac rwyf bellach yn aelod balch o dîm Caffael Talent Adnoddau Dynol fel Gweinyddwr A.D. yn recriwtio ar draws pob un o’n 7 campws. Fy swydd fel Gweinyddwr A.D. yw sicrhau profiad ardderchog i ymgeiswyr o’r cam cyntaf i’r cam olaf, paratoi a chyhoeddi swyddi gwag a
darparu cefnogaeth i fy nghydweithwyr yn yr adran A.D.

Pam Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion

Pan rydych chi’n ymuno â’r coleg, rydych chi’n teimlo ar unwaith bod yna groeso i chi a’ch bod yn cael eich gwerthfawrogi. Mae cefnogaeth ac adnoddau diddiwedd ar gael i chi i’ch helpu i ffynnu a llwyddo yn eich rôl. Mae’r cyfleoedd datblygu yn elfen enfawr o weithio yma. Mae’r anogaeth a geir drwy Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion i symud ymlaen, boed yn
eich rôl gyfredol neu wrth roi cynnig ar rywbeth newydd, yn gymelliadol dros ben ac mae gwybod bod y Coleg yn ymrwymedig i wella ei staff yn rheswm arall pam rwy’n falch i weithio yma.

Cyngor i ymgeiswyr

Y peth gorau medrwch chi ei wneud yw cael dealltwriaeth fanwl o’r hyn rydych chi’n gwneud cais amdano a theilwra eich dull i ddangos sut y gallwch chi ychwanegu gwerth, nid yn unig sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf. Byddwch yn ymwybodol o’ch cryfderau, eich hanes, a
pham bod y cyfle hwn yn gwneud synnwyr i chi.

Paratowch! Fel y dywedodd berson doeth wrthyf un tro, “Mae’n well i fod wedi paratoi gormod na pheidio â bod wedi paratoi o gwbl.” 

Hefyd, peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau i ni, ydyn NI’n iawn i chi? Rydyn ni’n hoff iawn o glebran yn y bôn felly peidiwch da chi â meddwl nad ydych chi’n gallu siarad â ni.

Swyddi Byw Lucy