Croeso i Coleg Sir Gar a Coleg Ceredigion

Ysbrydoli Dysgwyr, Cyflawni Potensial, Ennill Rhagoriaeth.

Ennill Rhagoriaeth.

Crëwyd Coleg Sir Gâr yn 1985 a daeth yn sefydliad corfforaethol yn 1993. Yn 2013 cafodd ei wneud yn gwmni sef Coleg Sir Gâr Cyf, o fewn Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, a rhan o Brifysgol Sector Deuol ranbarthol. Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o dros £35m ac mae'n cyflogi tua 800 o staff.

Lleolir y Coleg yn Ne-orllewin Cymru ac mae ganddo bum prif gampws yn Llanelli (Y Graig), Caerfyrddin (Pibwrlwyd a Ffynnon Job), Rhydaman a Llandeilo (Y Gelli Aur). Mae'r Coleg hefyd yn gartref i Ysgol Gelf Caerfyrddin, sydd â'i gwreiddiau'n dyddio nôl i 1854.
Learners sitting

Dysgwyr.

Mae gan y Coleg tua 9,000 o ddysgwyr, gyda rhyw 3,000 ohonynt yn llawn amser a 6,000 yn rhan-amser. Ceir yno tua 900 o ddysgwyr addysg uwch. Mae hefyd yn cynnig ei ddarpariaeth ar-lein, trwy bartneriaethau mewn lleoliadau cymunedol ac yn y gweithle.

Mae gan y Coleg ystod gynhwysfawr ac eang o raglenni dysgu academaidd a galwedigaethol. Mae'r rhain yn amrywio o lefel cyn mynediad i raglenni graddedig, gan ddarparu gwasanaeth i'r gymuned ddysgu gyfan. Mae'n cynnig addysg bellach, addysg oedolion a'r gymuned, addysg uwch, dysgu yn y gwaith a rhaglenni a gwasanaethau pwrpasol ar gyfer datblygu busnes. Mae'n darparu hefyd ar gyfer nifer fawr o ddisgyblion ysgol 14-16 oed sy'n mynychu'r Coleg neu'n cael eu dysgu gan staff y Coleg yn eu hysgolion.
HE graduates

Canlyniadau safon uwch yn parhau i ddangos safonau uchel.

Mae dysgwyr yng Ngholeg Sir Gâr wedi cynhyrchu set ragorol o ganlyniadau Safon Uwch eleni, yn yr hyn oedd i lawer yn brofiad cymharol newydd o hyd o sefyll arholiadau ffurfiol ar y lefel astudio hon

Roedd dychwelyd yn ddiweddar i asesu yn seiliedig ar arholiadau ffurfiol yn gofyn am gymorth, arweiniad a gofal ychwanegol, a roddwyd gan staff ymroddedig ac arbenigol ar draws y rhaglen Safon Uwch.

Ar gyfer cymwysterau Safon Uwch, mae’r Coleg yn dathlu 30% o ddysgwyr yn ennill graddau A*-A, tra bod 13% o’r cofrestriadau wedi cyflawni’r graddau A* uchaf. Mae hwn yn gyflawniad rhagorol ac yn dyst i waith caled yr holl fyfyrwyr a staff trwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cafwyd perfformiadau nodedig mewn pynciau gan gynnwys Bioleg, Astudiaethau Busnes, Llenyddiaeth Saesneg, Mathemateg Bellach, Daearyddiaeth, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, y Gyfraith, Mathemateg, Addysg Gorfforol, Seicoleg a Chymdeithaseg. At ei gilydd, enillodd
81% o ddysgwyr raddau A* - C ac enillodd 99% raddau A - E. Mae hyn yn unol â disgwyliadau a amlygwyd gan Gymwysterau Cymru a CBAC.
Darllen mwy

Swyddi

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gweld unrhyw rolau yr hoffech ymgeisio amdanynt nawr. Cofrestrwch eich diddordeb er mwyn i ni allu cysylltu â chi pan ddaw rôl addas sy’n bodloni eich meini prawf.

Cofrestru Eich Diddordeb