Buddion
Lwfans Gwyliau
Caiff staff cynnal 28 diwrnod o wyliau’r flwyddyn, gwyliau banc statudol a 5 diwrnod cau’r coleg – hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol o wyliau ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
Fel darlithydd, byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau.
Mae staff Graddfa Rheolwyr yn cael 37 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a 5 diwrnod cau’r coleg sef cyfanswm o 50 diwrnod y flwyddyn
Cynllun Aberthu Cyflog Car
Coleg Sir Gâr & Coleg Ceredigion yn cynnig ffordd syml, mwy fforddiadwy a hwylus i bob gweithiwr cymwys yrru cerbyd newydd sbon.
Cynllun Pensiwn Hael
Rydyn ni’n gweithredu cynllun pensiwn hynod o hael sy’n amrywio o 20% o gyfraniadau cyflogwr i unrhyw un sydd ar gynllun pensiwn llywodraeth leol a 23.68% ar gyfer y rheiny sydd ar y Cynllun Pensiwn Athrawon.
Dysgu a Datblygu
Mae gennym ffocws a buddsoddiad yn nyheadau staff a myfyrwyr sy'n meithrin a grymuso unigolion i gymryd perchnogaeth dros eu dyfodol. Mae gennym raglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig sy'n agored i bob aelod o staff ar draws y sefydliad. Anogir a chefnogir staff bob amser i ddilyn llwybrau dysgu proffesiynol sy'n ysbrydoli chwilfrydedd, yn eu datblygu fel unigolion ac yn gyrru'r sefydliad i flaen y gad o ran llwyddiant addysgol.
Lles
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i les yr holl fyfyrwyr a staff yn y coleg. O ganlyniad, mae gennym amrywiol ffyrdd o gefnogi, dathlu a chydweithio gyda chydweithwyr ar draws bob un o’r campysau sy’n cynnwys; diwrnodau lles, lles staff a buddion amrywiol eraill.
Aelodaeth Campfa Rhad ac Am Ddim
Mae gan holl staff Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fynediad am ddim i’n campfeydd ar y safle ar Gampws y Graig, Campws Rhydaman, Campws Pibwrlwyd, a Campws Aberteifi. Rydym yn cynnig oriau penodol yn unig i staff cyn ac ar ôl gwaith, ynghyd â chyfleusterau newid a chawodydd.
Mae gan staff hefyd fynediad i aelodaeth campfa am bris gostyngol gydag Actif Sport and Leisure ar draws Sir Gaerfyrddin.
Mae gan staff hefyd fynediad i aelodaeth campfa am bris gostyngol gydag Actif Sport and Leisure ar draws Sir Gaerfyrddin.
Seiclo i’r Gwaith
Rydyn ni’n gweithredu cynllun seiclo i’r gwaith er mwyn cynorthwyo gweithwyr i brynu beic a chyfarpar.
Parcio ceir am ddim
Mae pob gweithiwr yn elwa ar faes parcio ceir am ddim ar y safle ar draws pob un o’r 7 campws.
Swyddi
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gweld unrhyw rolau yr hoffech ymgeisio amdanynt nawr. Cofrestrwch eich diddordeb er mwyn i ni allu cysylltu â chi pan ddaw rôl addas sy’n bodloni eich meini prawf.