Taith Rithwir yn Campws Aberteifi

Campws Aberteifi Coleg Ceredigion yw prif leoliad y Gyfadran Sgiliau a Thechnoleg ac mae wedi'i leoli ger canol y dref gyda mynediad hawdd i'r holl gyfleusterau lleol.  

Gwybodaeth am Campws Aberteifi

Campws Aberteifi Coleg Ceredigion yw prif leoliad y Gyfadran Sgiliau a Thechnoleg ac mae wedi'i leoli ger canol y dref gyda mynediad hawdd i'r holl gyfleusterau lleol. Mae gan yr holl ystafelloedd addysgu a TG sgriniau rhyngweithiol CTouch mawr yn ogystal ag ystod o gyfleusterau addysgu gydag adnoddau o safon diwydiant. 

Mae yna Ardal Ymlacio fodern lle gall dysgwyr gymdeithasu, ymlacio neu ailfywiogi rhwng gwersi yn ogystal ag Y Cantîn, sy'n gweini brecwast a chinio.  Hefyd, mae gan y campws Ganolfan Adnoddau Dysgu a Llyfrgell sydd wedi'i staffio'n llawn yn ogystal ag ardaloedd arbenigol i gefnogi addysg a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm. Mae'r rhain yn cynnwys:
  • Gweithdai Gwaith Saer ac Asiedydd, Bricwaith ac amlsgiliau a adeiladwyd yn bwrpasol, sydd wedi eu cyfarparu’n llawn ag offer o safon diwydiant ar gyfer Sgiliau Adeiladu.
  • Gweithdai Dylunio ac Adfer Dodrefn a Gweithdy Cerbydau Modur a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer Sgiliau Gweithgynhyrchu a Sgiliau Peirianneg Fodurol
  • Labordy cyfrifiaduron, Stiwdios Cyfrifiadura ac Animeiddio wedi eu cyfarparu’n llawn ar gyfer TG
  • Bwyty hyfforddi Maes y Parc ar gyfer Lletygarwch ac Arlwyo sy'n agored i staff, myfyrwyr a'r gymuned leol
  • Salon Academi Steil ar gyfer Gwallt a Harddwch sy'n agored i staff, myfyrwyr a'r gymuned leol

Mae'r campws yn hyrwyddo amgylchedd cefnogol a gofalgar gyda staff arbenigol wrth law i gynnig cyngor, cyfarwyddyd a chymorth.   Mae profiad y dysgwr yn flaenllaw yn ein cymuned ddysgu. Dewch draw i ymweld â'n campws a chewch groeso cynnes ar unrhyw adeg.

Cyfleoedd yn Campws Aberteifi

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gweld unrhyw rolau yr hoffech ymgeisio amdanynt nawr. Cofrestrwch eich diddordeb er mwyn i ni allu cysylltu â chi pan ddaw rôl addas sy’n bodloni eich meini prawf.

Cofrestru Eich Diddordeb