Anogwr Bugeiliol
Mae’r coleg yn dymuno penodi Anogwr Bugeiliol i roi cefnogaeth ac arweiniad i ddysgwyr mewn maes cwricwlwm penodol.Bydd gwaith yr Anogwr Dysgu yn galluogi pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i ddysgu yn well a chyflawni canlyniadau dysgwyr llwyddiannus.
Fel Anogwr Bugeiliol, byddwch yn olrhain cynnydd pob dysgwr ar ei raglen astudio, gan ddarparu’r cymorth a’r arweiniad angenrheidiol i’w helpu i lwyddo. Byddwch yn gweithio’n agos gyda phob dysgwr, gan osod targedau ac adolygu cynnydd i sicrhau ei fod ar y trywydd iawn i gyflawni ei gyrchnodau.Trwy roi adborth a chefnogaeth mewn da bryd, byddwch yn helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau a chymryd camau ystyrlon tuag at eu huchelgeisiau. Byddwch yn monitro ac yn dilyn presenoldeb, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cymryd rhan weithredol yn ei daith addysgol.
Bydd gwaith yr Anogwr Bugeiliol yn ategu rhwydwaith cymorth ehangach y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr o fewn y Coleg a gweithgareddau o fewn Meysydd Cwricwlwm. Bydd y gwaith yn gofyn am lefel uchel o gydweithio â staff eraill ar draws y Coleg. Mae’r rôl yn cynnwys mynd i’r afael â phroblemau a phryderon dysgwyr, hybu diwylliant cadarnhaol a gofalgar, cyflwyno sesiynau datblygiad personol, a gweithio ar y cyd a thîm o Anogwyr Cynnydd i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol blynyddol.

Cyfrifoldebau Allweddol
Dyletswyddau Cyffredinol/Dyraniad
- Rheoli hyd at 10 grŵp o ddysgwyr;
- Monitro presenoldeb dysgwyr unigol a mynd i’r afael â phroblemau presenoldeb gan ddefnyddio technegau rheoli ymddygiad yn gadarnhaol;
- Mynd i’r afael â phroblemau presenoldeb fel y nodir yn y polisi monitro a rheoli presenoldeb;
- Cynnal sesiynau tiwtorial grŵp wythnosol awr o hyd wedi'u hamserlennu gyda phob grŵp;
- Ymgymryd ag adolygiadau cynnydd un-i-un gyda dysgwyr unigol a sesiynau gosod targedau unwaith bob hanner tymor;
- Neilltuo amser ar gyfer tasgau gweinyddol, monitro a rheoli presenoldeb, gofal bugeiliol, cyfarfodydd rhieni a chefnogaeth un-i-un;
- Cynnal a chadw dogfennaeth fewnol;
- Cwblhau elfen tiwtor bugeiliol adroddiadau interim a chrynodol dysgwyr;
- Mynychu a chyfrannu at ddigwyddiadau ymgynghori â rhieni fel anogwr bugeiliol;
- Cyfrannu at waith y coleg ar ddiogelu yn unol â'r polisi a phrosesau adrodd;
- Mynychu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd mewnol perthnasol megis;
- Gwrandawiadau disgyblu, adolygiadau dysgwyr, cyfarfodydd amlddisgyblaethol, cyfarfodydd tîm;
- Datblygu, hwyluso a chyflwyno gweithgareddau pontio gyda’r nod o gefnogi dysgwyr i mewn i’r coleg;
- Cydweithio â holl staff eraill y gyfadran i rannu gwybodaeth berthnasol.
Cefnogaeth Un-i-Un
- Cynnal cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda’r holl ddysgwyr a neilltuwyd i chi trwy gydol y flwyddyn academaidd;
- Cysylltu ag arweinydd y rhaglen a defnyddio systemau digidol cwrs i fonitro ac olrhain cynnydd dysgwyr;
- Gosod ac adolygu targedau bob tymor gyda phob dysgwr;
- Nodi a rhoi ymyriadau priodol ar waith a gosod targedau i fynd i'r afael â phresenoldeb gwael;
- Cefnogi dysgwyr i osod a chyflawni eu cyrchnodau unigol.
Sesiynau Datblygiad Personol/Tiwtorial
- Cyflwyno sesiynau tiwtorial personol a gynlluniwyd gan y tîm cefnogi dysgwyr canolog;
- Cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y tu hwnt i'w cymwysterau;
- Annog cyfranogiad gweithredol mewn gweithgareddau datblygiad personol a chyfoethogi.
Cyflogadwyedd ac Arweiniad Gyrfa
- Cysylltu â’r tîm Byddwch yn Uchelgeisiol i gydlynu rhaglen gyflogadwyedd ar gyfer pob dysgwr;
- Hwyluso presenoldeb mewn sesiynau arweiniad gyrfa;
- Cynorthwyo dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u llwybrau gyrfa a'u llwybrau dilyniant yn y dyfodol;
- Darparu cymorth i ddysgwyr gyda cheisiadau UCAS a cheisiadau mewnol/allanol eraill;
- Cefnogi dysgwyr wrth iddynt bontio i addysg uwch, hyfforddiant pellach, neu gyfleoedd cyflogaeth.
Cymryd Rhan yn Llais y Dysgwr
- Cefnogi gweithgareddau a phrosesau Llais y Dysgwr;
- Gweinyddu holiaduron dysgwyr a chyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) sy'n gysylltiedig â chyfranogiad dysgwyr;
- Annog dysgwyr i gymryd rhan weithredol wrth lunio eu profiad addysgol.
Rheoli Ymddygiad
- Hybu ymddygiad cadarnhaol yn unol â gwerthoedd y coleg sef Bod yn Barod, Bod yn Barchus a Bod yn Ddiogel;
- Mynd i’r afael â phryderon am ymddygiad dysgwyr yn brydlon ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r coleg;
- Rhoi ymyriadau priodol ar waith a chofnodi'r camau a gymerwyd;
- Hybu amgylchedd dysgu cadarnhaol a pharchus.
Cefnogi
- Myfyrwyr sydd mewn Perygl Cydweithio gyda chydweithwyr cwricwlwm a gwasanaethau myfyrwyr i nodi, cefnogi ac atgyfeirio myfyrwyr sydd “mewn perygl”;
- Cwblhau asesiadau risg ar gyfer dysgwyr unigol lle bo angen;
- Rhoi ymyriadau priodol a strategaethau cymorth i fyfyrwyr ar waith;
- Monitro ac olrhain cynnydd dysgwyr sydd mewn perygl.
Sgiliau Gwybodaeth ac Arbenigedd
Hanfodol:
- Gradd neu gyfwerth
- TGAU Saesneg & Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Profiad a dealltwriaeth o weithio mewn ffordd sy’n Ystyriol o Drawma
- Cyfathrebwr da
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Y gallu i weithio’n gytûn gyda chydweithwyr
- Sgiliau cyflwyno da
- Y gallu i uniaethu â’r grŵp targed
- Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
Dymunol:
- TAR
- Profiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc
- Profiad o gymryd rhan yn weithredol mewn gofal bugeiliol pobl ifanc
- Profiad o gyflwyno addysgu a dysgu
- Profiad o reoli ymddygiad heriol yn effeithiol
Yr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwym)
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i’r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein
Ynghylch Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion
Crëwyd Coleg Sir Gâr yn 1985 a daeth yn sefydliad corfforaethol yn 1993. Yn 2013 cafodd ei wneud yn gwmni sef Coleg Sir Gâr Cyf, o fewn Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, a rhan o Brifysgol Sector Deuol ranbarthol. Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o dros £35m ac mae'n cyflogi tua 800 o staff.
Crëwyd Coleg Ceredigion ym 1985 a daeth yn sefydliad corfforaethol ym 1993. Unodd y coleg â Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant fel is-gwmni yn 2014. Mae gan y coleg drosiant blynyddol o dros £6m ac mae'n cyflogi tua 180 o staff.

Lleolir y Coleg yn Ne-orllewin Cymru ac mae ganddo saith prif gampws yn Llanelli (Y Graig), Caerfyrddin (Pibwrlwyd a Ffynnon Job), Rhydaman, Llandeilo (Y Gelli Aur), Aberteifi a Aberystwyth. Mae'r Coleg hefyd yn gartref i Ysgol Gelf Caerfyrddin, sydd â'i gwreiddiau'n dyddio nôl i 1854.
Ysbrydoli Dysgwyr
Cyflawni Potensial
Ennill Rhagoriaeth
Dogfennau
Click to view
Click to view
Click to view
Click to view
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydym yn ysbrydoli dysgwyr i gyflawni potensial ac ennill rhagoriaeth. I wneud hyn, mae angen y gweithwyr gorau arnom i barhau â’n diwylliant o barch, undod a phroffesiynoldeb.Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac felly’n croesawu ceisiadau o bob cefndir ac ardal o’r gymuned i’r coleg.
Ewch i'n tudalen bwrpasol i ddarganfod mwy
Hyderus o ran Anabledd
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn falch o fod yn gyflogwr hyderus o ran anabledd ymroddedig. O ganlyniad, rydym yn sicrhau bod ein proses recriwtio yn gwbl gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, yn cyfathrebu ac yn hyrwyddo pob cyfle, yn rhagweld ac yn darparu addasiadau rhesymol, yn cefnogi gweithwyr presennol sy’n datblygu anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor i aros yn y gwaith, ac yn cynnig cyfweliad i bobl anabl sy’n bodloni gofynion hanfodol y swydd.

Ein Proses Gyflogi
Ddim yn hollol addas? Cofrestrwch eich diddordeb i gael gwybod am unrhyw rolau a ddaw sy’n bodloni eich meini prawf.