Tom Braddock
Rheolwr Caffael Talent
Beth rydw i'n ei wneud yn Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion
Ymunais â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel y Rheolwr Caffael Talent yn 2021. Yn fy rôl, rwy’n rheoli yr holl weithrediadau talent a recriwtio ar draws ein saith campws. Mae hyn yn caniatáu i mi rannu fy mrwdfrydedd am addysg ac Adnoddau Dynol gyda’i gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i staff, dysgwyr, a chymunedau ehangach Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Rwy’n frwdfrydig iawn ynghylch Adnoddau Dynol ac yn mwynhau dod o hyd i ffyrdd newydd i gefnogi, datblygu a gwobrwyo ein staff ar draws y sefydliad.
Rwy’n aelod balch o’r Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac yn credu’n gryf mewn creu lle croesawgar a chynhwysol i weithio ynddo ar gyfer ein staff, budd-ddeiliaid, a’r cymunedau cyfagos. Ewch i ymweld â’n tudalen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i ddarllen mwy am ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Pam Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion
Un o fy hoff bethau ynglŷn â gweithio yn y Coleg yw cael y cyfle i weithio ar draws pob un o’n saith campws. Mae hyn yn caniatáu i mi weithio gyda staff o amrywiol adrannau, rolau ac arbenigeddau. Mae cael y fath staff gwych ar draws y sefydliad yn golygu bod croeso i mi bob amser ac rwy’n cael ymdeimlad gwych o berthyn, ni waeth pa gampws rwyf yn gweithio arno.
Pwy ydw i?
Rwy’n teimlo’n angerddol am bobl, a dyna pam rwy’n mwynhau fy rôl. Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â’n hymgeiswyr a’n staff a dysgu amdanynt. Rwy'n hoffi cynorthwyo aelodau newydd o staff i ymgyfarwyddo ac rwy'n mwynhau yn arbennig eu gweld yn datblygu o fewn eu rolau ac yn symud ymlaen i rai newydd yn y Coleg. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld beth mae hi fel i weithio yn y Coleg, neu os ydych chi eisiau gwybod mwy yn unig, rwyf bob amser yn barod i siarad â chi a byddai'n wych clywed gennych chi!
Ers ymuno â’r Coleg, rwyf wedi cael cefnogaeth ac anogaeth lawn i barhau â fy natblygiad proffesiynol fy hun. Mae’n deimlad gwych gwybod bod y Coleg yn buddsoddi ac yn cefnogi fy nyfodol yma, tra’n cael gwybodaeth gyfoes am y tueddiadau, y technolegau a’r wybodaeth ddiweddaraf ym myd addysg ac Adnoddau Dynol.
Cyngor i ymgeiswyr
Gwnewch eich ymchwil! Os oes unrhyw gwestiynau gennych cyn eich cais neu gyfweliad, gofynnwch i ni. Rydyn ni am gwrdd y fersiwn orau ohonoch, felly dywedwch wrthym sut y gallwn ni eich cefnogi i wneud hyn.
A chofiwch, mae cyfweliad yn broses ddwy ffordd, mae’n gyfle i chi weld os ydym ni’n iawn i chi, felly byddwch yn chi’ch hun a gofynnwch gynifer â sydd eu hangen arnoch o gwestiynau.
A chofiwch, mae cyfweliad yn broses ddwy ffordd, mae’n gyfle i chi weld os ydym ni’n iawn i chi, felly byddwch yn chi’ch hun a gofynnwch gynifer â sydd eu hangen arnoch o gwestiynau.