Cysylltu â Tom
Linkedin

Tom Braddock

Rheolwr Caffael Talent

Beth rydw i'n ei wneud yn Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion

Ymunais â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel y Rheolwr Caffael Talent yn 2021.  Yn fy rôl, rwy’n rheoli yr holl weithrediadau talent a recriwtio ar draws ein saith campws.  Mae hyn yn caniatáu i mi rannu fy mrwdfrydedd am addysg ac Adnoddau Dynol gyda’i gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i staff, dysgwyr, a chymunedau ehangach Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.  Rwy’n frwdfrydig iawn ynghylch Adnoddau Dynol ac yn mwynhau dod o hyd i ffyrdd newydd i gefnogi, datblygu a gwobrwyo ein staff ar draws y sefydliad.
 
Rwy’n aelod balch o’r Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac yn credu’n gryf mewn creu lle croesawgar a chynhwysol i weithio ynddo ar gyfer ein staff, budd-ddeiliaid, a’r cymunedau cyfagos.  Ewch i ymweld â’n tudalen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i ddarllen mwy am ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Pam Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion

Un o fy hoff bethau ynglŷn â gweithio yn y Coleg yw cael y cyfle i weithio ar draws pob un o’n saith campws.  Mae hyn yn caniatáu i mi weithio gyda staff o amrywiol adrannau, rolau ac arbenigeddau.  Mae cael y fath staff gwych ar draws y sefydliad yn golygu bod croeso i mi bob amser ac rwy’n cael ymdeimlad gwych o berthyn, ni waeth pa gampws rwyf yn gweithio arno.

Pwy ydw i?

Rwy’n teimlo’n angerddol am bobl, a dyna pam rwy’n mwynhau fy rôl.  Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â’n hymgeiswyr a’n staff a dysgu amdanynt.  Rwy'n hoffi cynorthwyo aelodau newydd o staff i ymgyfarwyddo ac rwy'n mwynhau yn arbennig eu gweld yn datblygu o fewn eu rolau ac yn symud ymlaen i rai newydd yn y Coleg.  Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld beth mae hi fel i weithio yn y Coleg, neu os ydych chi eisiau gwybod mwy yn unig, rwyf bob amser yn barod i siarad â chi a byddai'n wych clywed gennych chi!

Ers ymuno â’r Coleg, rwyf wedi cael cefnogaeth ac anogaeth lawn i barhau â fy natblygiad proffesiynol fy hun.  Mae’n deimlad gwych gwybod bod y Coleg yn buddsoddi ac yn cefnogi fy nyfodol yma, tra’n cael gwybodaeth gyfoes am y tueddiadau, y technolegau a’r wybodaeth ddiweddaraf ym myd addysg ac Adnoddau Dynol.

Cyngor i ymgeiswyr

Gwnewch eich ymchwil!  Os oes unrhyw gwestiynau gennych cyn eich cais neu gyfweliad, gofynnwch i ni.  Rydyn ni am gwrdd y fersiwn orau ohonoch, felly dywedwch wrthym sut y gallwn ni eich cefnogi i wneud hyn. 

A chofiwch, mae cyfweliad yn broses ddwy ffordd, mae’n gyfle i chi weld os ydym ni’n iawn i chi, felly byddwch yn chi’ch hun a gofynnwch gynifer  â sydd eu hangen arnoch o gwestiynau.
Cysylltu â Tom
Linkedin

Swyddi Byw Tom