Ein Cydweithwyr
Dewch i wybod beth sydd gan ein cydweithwyr i’w ddweud am Goleg Sir Gâr | Coleg Ceredigion
Neges gan ein Pennaeth
“Mae gweithio yn y sector AB yn rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol a thrawsnewid bywydau’r genhedlaeth nesaf. Trwy weithio mewn swydd o unrhyw fath yng Ngholeg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion byddwch yn helpu i ysbrydoli dysgwyr, datblygu sgiliau, creu cyfleoedd a sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial.”Andrew Cornish, CEO/Principal
Yr hyn sydd gan ein Cydweithwyr i’w ddweud
Zea-Preston Voile - Darlithydd ac Anogwr Swyddi Llwybr 4
Rwyf wedi bod yn gweithio i Goleg Sir Gâr am 7 mlynedd, yn y dechrau fel Aseswr a Darlithydd Cysylltiol ac mae’r amser wedi hedfan heibio! Ar ôl cwblhau TAR a BA mewn Gofal Cymdeithasol, rwyf bellach yn Ddarlithydd ac Anogwr Swyddi ar Raglen 'Camu i Gyflogaeth’ Llwybr 4 ac rwyf yn hollol wrth fy modd gyda hyn.
Ar Lwybr 4, rwy’n gweithio’n agos gyda Ceinwen, yr ESA, y GIG a Elite SEA i gefnogi’r Interniaid sydd ag anghenion ychwanegol i ennill sgiliau, gwybodaeth a hyder yn y gweithle. Dyma flwyddyn gyntaf y cwrs ac mae grŵp gennym yn Ysbyty Tywysog Phillip yn gweithio mewn gwahanol wardiau ac adrannau. Rydyn ni’n gobeithio y bydd mwy o adrannau’n ymuno â ni’r flwyddyn nesaf i roi cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i’r bobl ifanc.
Mae wedi bod yn hyfryd i weld y trawsnewidiad ynddynt. Mae’r mwyafrif wedi derbyn hyfforddiant teithio ac wedi dysgu defnyddio’r bysiau’n annibynnol. Mae un dysgwr bellach wedi dechrau cerdded o’r Coleg neu’r lleoliad gwaith ac adref yn lle cael lifft, sydd wedi bod yn gyflawniad enfawr, nid yn unig iddo ef, ond i Mam sydd wedi gadael iddo wneud hynny. Yn y lleoliad gwaith, maen nhw’n defnyddio popeth maen nhw’n ei ddysgu o’r cymhwyster Tystysgrif Agored mewn Addysg Cysylltiedig â Gwaith (Lefel Mynediad 1), megis iechyd a diogelwch, cyfathrebu a gwaith tîm, yn y gweithle.
Rydyn ni hefyd yn gweithio ar CV’s, sgiliau cyfweliad a ffurflenni cais. Mae’r Interniaid wedi ysgrifennu cyflwyniadau ac wedi cyflwyno’r rhain i’w teuluoedd, y GIG, Elite a Choleg Sir Gâr. Disgrifion nhw eu teithiau a’r hyn maen nhw wedi elwa o’r profiad cyfan. Roedd hon yn foment eithaf emosiynol i’r teuluoedd gan eu bod wedi cael cipolwg gwirioneddol ar eu Hinterniaethau. Maen nhw i gyd yn awyddus i barhau i wirfoddoli neu ymgeisio am swyddi unwaith bod y cwrs yn dod i ben, sy’n dangos dilyniant a chymaint y gall pobl sydd ag anghenion ychwanegol gyfrannu at y gweithle.
Rwyf wir yn teimlo bod fy swydd yn werth chweil iawn, yn enwedig pan fyddwch chi’n gweld eu hyder yn cynyddu ac yn sylweddoli eu bod yn gallu cyflawni cymaint.

Nicole Howells - Darlithydd mewn Chwaraeon & Hyfforddwr Academi Pêl-rwyd
Nikki yw fy enw i ac rwy’n un o’r darlithwyr Chwaraeon yn y Graig ac un o’r hyfforddwyr yn yr Academi Bêl-rwyd. Dyma fy mlwyddyn lawn gyntaf yn dysgu ar ôl cwblhau fy Nhystysgrif mewn Addysg i Raddedigion (TAR) ac rwy’n mwynhau bob munud o’r rôl yn fawr iawn. Mae ein tîm yn wych, maen nhw’n gefnogol a chalonogol iawn - mae’n teimlo fel teulu mawr. Un o’r agweddau mwyaf pleserus o fod yn athrawes yw gweld cynnydd myfyrwyr ac mae’n agwedd gwerth chweil go iawn o’r swydd. Rwyf wrth fy modd yn hyfforddi’r Academi Bêl-rwyd; mae gweithio gyda’r chwaraewyr a gweld datblygiad enfawr yn y tîm wedi bod yn wych. Maen nhw wedi gorffen yn 2il dros y cyfan yng Nghynghrair Cymru sy’n gyflawniad gwych. Mae gweithio i Goleg Sir Gâr yn gyffredinol yn gyfle ffantastig; mae staff o adrannau eraill mor gyfeillgar a chefnogol i’w gilydd. Mae’n fraint i weithio yma pan fod gan bob un ohonom yr un nod o ysbrydoli’r myfyrwyr a galluogi dilyniant.
Tom Braddock - Rheolwr Caffael Talent
Ymunais â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel y Rheolwr Caffael Talent yn 2021. Yn fy rôl, rwy’n rheoli yr holl weithrediadau talent a recriwtio ar draws ein saith campws. Mae hyn yn caniatáu i mi rannu fy mrwdfrydedd am addysg ac Adnoddau Dynol gyda’i gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i staff, dysgwyr, a chymunedau ehangach Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Rwy’n frwdfrydig iawn ynghylch Adnoddau Dynol ac yn mwynhau dod o hyd i ffyrdd newydd i gefnogi, datblygu a gwobrwyo ein staff ar draws y sefydliad.
Rwy’n aelod balch o’r Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac yn credu’n gryf mewn creu lle croesawgar a chynhwysol i weithio ynddo ar gyfer ein staff, budd-ddeiliaid, a’r cymunedau cyfagos. Ewch i ymweld â’n tudalen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i ddarllen mwy am ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Rwy’n teimlo’n angerddol am bobl, a dyna pam rwy’n mwynhau fy rôl. Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â’n hymgeiswyr a’n staff a dysgu amdanynt. Rwy'n hoffi cynorthwyo aelodau newydd o staff i ymgyfarwyddo ac rwy'n mwynhau yn arbennig eu gweld yn datblygu o fewn eu rolau ac yn symud ymlaen i rai newydd yn y Coleg. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld beth mae hi fel i weithio yn y Coleg, neu os ydych chi eisiau gwybod mwy yn unig, rwyf bob amser yn barod i siarad â chi a byddai'n wych clywed gennych chi!
Ers ymuno â’r Coleg, rwyf wedi cael cefnogaeth ac anogaeth lawn i barhau â fy natblygiad proffesiynol fy hun. Mae’n deimlad gwych gwybod bod y Coleg yn buddsoddi ac yn cefnogi fy nyfodol yma, tra’n cael gwybodaeth gyfoes am y tueddiadau, y technolegau a’r wybodaeth ddiweddaraf ym myd addysg ac Adnoddau Dynol.
Christopher Painter – Technegydd Cymorth, MIS/Gwasanaethau Cyfrifiadurol
Rwy’n rhan o dîm rhwydwaith Coleg Sir Gâr; fy mhrif rôl yw cynorthwyo eraill pan fydd angen cymorth arnyn nhw, yn bennaf gyda phroblemau TG ond nid yn gyfyngedig i TG yn unig. Os oes rhywbeth y gellir ei wneud, byddaf yn ceisio fy ngorau i’w wneud ac os na, yn cyfeirio pobl at gymorth. Mae fy nghwsmeriaid yn amrywio o athrawon a staff yn ogystal â myfyrwyr. Rwy'n cynorthwyo gydag unrhyw faterion a all godi wrth ddefnyddio TG; mae hyn yn cynnwys mynediad i'n system a mewngofnodi iddi, cyngor ar sut i ddefnyddio swyddogaethau cyfrifiadurol a meddalwedd sylfaenol i faterion ychydig yn fwy cymhleth gyda'r system.
Rwy'n dosbarthu cyfarpar newydd lle bo angen, yn gosod gofodau TG ar gyfer dysgwyr ac yn helpu staff i symud swyddfeydd. Rwy'n rhannol gyfrifol am ofalu am ddyfeisiau a'u rhoi ar y system, gan helpu i sicrhau eu bod wedi'u cysylltu ac yn gweithio yn ôl y disgwyl. Rwyf hefyd yn helpu'r tîm TG i reoli unrhyw namau newydd a ganfyddir ac yn cyfrannu gwybodaeth at ddatrys problemau.

Rwy’n mwynhau gweithio yng Ngholeg Sir Gâr achos rwy’n cael bod yn rhan o dîm mawr, lle mae pawb yn gwneud eu gorau. Nid yn aml y byddwch yn cwrdd â phobl o’r un anian ac mae Coleg Sir Gâr yn teimlo fel casgliad o unigolion blaengar o’r un anian. Mae pawb yn gyfeillgar, yn gymwynasgar ac yn ystyriol.
Fel cwmni, maen nhw’n ecogyfeillgar ac yn poeni am y dyfodol. Maen nhw’n poeni am genedlaethau dysgwyr y dyfodol ac yn ymdrechu i ddarparu'r gorau.
Christy Anson-Harries - Cyfarwyddwr Recriwtio Dysgwyr, Dilyniant a Phartneriaethau
Ymunais i â’r coleg fel darlithydd Dawns yn 2007. Ers hynny rwyf wedi gweithio mewn nifer o adrannau fel arweinydd cwrs, pennaeth adran a rheolwr cyfadran dros dro. Yn fy swydd gyfredol rwy’n gyfrifol am Farchnata a Derbyn, a sicrhau bod pob un dysgwr yn cychwyn ar ei daith goleg mewn modd positif gyda chefnogaeth dda. Rwyf hefyd yn gyfrifol am Fenter, Cyflogadwyedd ac Ysbrydoli Sgiliau. Mae pob un o’r mentrau hyn yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu’r set sgiliau i nodi llwybrau dilyniant sy’n cefnogi llwyddiant yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Yn ogystal rwy’n chwarae rhan mewn meithrin partneriaethau gyda budd-ddeiliaid allweddol y coleg, gan gynnwys ein hysgolion partner lleol a grwpiau cymunedol. Rhan gyffrous o’m gwaith yw sicrhau cyllid i gefnogi symudedd rhyngwladol staff a dysgwyr, gan ddarparu cyfleoedd cynhwysol a theg i deithio’r byd. Rwy’n arbennig o ffodus o fod yn gweithio gyda thîm neilltuol sy’n arloesi, cefnogi a chyflawni’r gwaith hwn.
Rwy’n falch o fod yn rhan o goleg sy’n rhoi’r dysgwyr yn ganolog i’w waith. Mae amgylchedd y coleg yn wresog, cyfeillgar a chefnogol ac mae rhywun yn barod bob amser i wrando a helpu, os oes angen Heb air o gelwydd, rwy’n teimlo bod y coleg yn ymrwymedig i mi fel cyflogai, ac rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi’n dda yn fy rôl gyfredol a’m gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’r coleg wedi cefnogi fy natblygiad proffesiynol parhaus, sydd wedi rhoi’r fath gyfleoedd proffesiynol syfrdanol i mi.

Anna James - Pennaeth Diwydiannau Creadigol a Chymhwysol
Wrth fyfyrio ar fy mhrofiad fy hun ym myd addysg, rwy’n gwerthfawrogi’r effaith y mae athrawon ac addysg yn ei chael ar fywydau pobl ifanc ac oedolion. Fel athro, fy nod pennaf yw bod yn fodel rôl i ysbrydoli ac annog y rheiny sydd mewn addysg i ffynnu ac i gyrraedd eu llawn botensial.
Fel Pennaeth Cwricwlwm ar gyfer y Diwydiannau Creadigol a Chymhwysol, rwy’n chwarae rôl ganolog wrth siapio ac arwain cyfeiriad y cwricwlwm. Rwy’n cefnogi twf academaidd a phersonol myfyrwyr a staff hefyd, ac yn meithrin amgylched sy’n adeiladu hyder a gwytnwch wrth wynebu heriau.
Mae’r amgylchedd tîm cefnogol a’r cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol yn y Coleg wedi gwella fy nhwf a’m galluoedd ymhellach, gan ganiatáu i mi gael effaith gadarnhaol ar y genhedlaeth nesaf a’m galluogi i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau yn y maes. Mae’r profiadau hyn wedi tanio fy chwilfrydedd, wedi rhoi hwb i fy hyder, ac wedi rhoi i mi’r offer sydd eu hangen i ragori yn fy rôl.
Cyfleoedd Cyfredol
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gweld unrhyw rolau yr hoffech ymgeisio amdanynt nawr. Cofrestrwch eich diddordeb er mwyn i ni allu cysylltu â chi pan ddaw rôl addas sy’n bodloni eich meini prawf.