Yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 ac i fodloni ein rhwymedigaethau dan y Ddyletswydd Gyffredinol i:
- Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y ddeddf;
- Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd a'r rheiny nad ydynt;
- Meithrin cydberthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd a'r rheiny nad ydynt;
mae’n ofynnol i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, gasglu gwybodaeth gyflogaeth, gan gynnwys gwybodaeth am recriwtio, am y nodweddion gwarchodedig: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a pherthynas sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol.
Defnyddir y wybodaeth hon at ddibenion ystadegol yn unig ac ni fydd ar gael i’r rheiny sy’n ymwneud â’r gweithdrefnau dethol.