Abbie Hudson
Swyddog AD Cynorthwyol
Beth rydw i'n ei wneud yn Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion
Rwy’n Swyddog Cynorthwyol Adnoddau Dynol, ac rwy’n darparu cymorth ac yn cyfrannu at amrywiol agweddau ar waith yr Adran Adnoddau Dynol, gan gynnwys denu a recriwtio talent, llesiant a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), yn ogystal â datblygiad a hyfforddiant staff. Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i ymweld â phob un o’n saith campws a rhyngweithio â’n staff gwych. Mae’n rôl gyffrous a gwerth chweil sy’n cynnwys nifer o gamau yn nhaith cyflogai, o ddenu ymgeiswyr brwdfrydig ac arloesol i groesawu a sefydlu aelodau newydd o staff wrth iddynt ddechrau ar eu taith yn y Coleg.
Pam Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion
Mae’r Coleg wedi fy nghefnogi ar hyd fy nhaith yrfaol ers y diwrnod cyntaf, gan gynnig cyfleoedd i mi ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth, megis astudio ar gyfer Tystysgrif Sylfaen CIPD mewn Ymarfer Pobl. Teimlaf fod y Coleg yn buddsoddi yn fy natblygiad proffesiynol ac yn fy nghefnogi i gyflawni fy nodau.
Mae gan bob campws ei liw unigryw ei hun, ac mae’n bleser ymweld â phob un ohonynt, cyfarfod â staff o bob cefndir a gweld y gwaith eithriadol sy’n cael ei wneud i sicrhau llwyddiant ein dysgwyr.
Cyngor i ymgeiswyr
Mae cyfweliadau yn stryd ddwyffordd! Maent yn gyfle i chi ganfod a yw Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn addas i chi, nid cyfle i ni yn unig ddod i’ch adnabod chi. Peidiwch â bod ofn gofyn cymaint o gwestiynau ag sydd eu hangen arnoch; byddem yn fwy na pharod i sgwrsio am y Coleg a’r hyn sydd gennym i’w gynnig.
Paratoi yw’r allwedd; gwnewch eich ymchwil ymlaen llaw a sicrhewch fod eich cwestiynau’n barod cyn y diwrnod, a bydd gennych sylfaen gadarn ar gyfer eich cyfweliad.