Taith Rithwir yn Campws Graig

Campws y Graig yw'r mwyaf o bum campws Coleg Sir Gâr. Lleolir y Campws ger pentref Pwll ar arfordir de-orllewin Cymru yn Llanelli. Ceir golygfeydd o benrhyn Gŵyr o'r Campws, ac mae'n lle gwych i astudio gyda'i ystod o gyfleusterau addysgu ac adnoddau da a'r Hwb, sef ardal i'r myfyrwyr a ddyluniwyd ar gynllun cyfoes ac sy'n cynnig cymorth personol a chyfleoedd dysgu.

Gwybodaeth am Campws Graig

O fewn yr Hwb ceir ystod o swyddogaethau cefnogi dysgwyr fel mentoriaid dysgwyr, swyddfa yrfaoedd, swît gynghori, podiau dysgu ac Undeb y Myfyrwyr. I fyny'r grisiau ceir ardal gymdeithasol i'r myfyrwyr ymlacio ynddi, sydd nesaf at Siop Goffi Starbucks a Llyfrgell y campws sy'n cynnwys ystod gynhwysfawr o e-adnoddau, llyfrau, cylchgronau, papurau, newyddiaduron a chyfarpar TG.

Ceir ymdeimlad gwych o gymuned a bywiogrwydd ar y campws, sy’n deillio o gyfuniad o fyfyrwyr brwdfrydig yn astudio gwahanol ddisgyblaethau. Cânt eu meithrin, maent yn derbyn gofal a chânt eu harwain gan aelodau o staff ymroddgar a phrofiadol sy’n eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn, gan eu galluogi i symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu haddysg, boed hynny mewn coleg, mewn prifysgol, mewn swydd neu mewn hunangyflogaeth.

Mae'r campws hefyd yn gartref i 6ed Sir Gâr, cyfleuster Safon Uwch y Coleg sy’n cynnwys y rhaglen Mwy Galluog a Thalentog (MAT) a'r Academi Chwaraeon sy'n darparu cyfleoedd chwaraeon ar gyfer athletwyr elit mewn ystod o chwaraeon. Ceir yno gyfleusterau arbenigol i gefnogi addysg, dysgu a hyfforddiant mewn nifer o Feysydd Cwricwlwm. Mae'r rhain yn cynnwys:
  • canolfan peirianneg â chymorth cyfrifiadur sy’n defnyddio pecynnau meddalwedd o safon diwydiant
  • cyfarpar peirianneg a gweithgynhyrchu sy’n cynnwys peiriannau CNC, technoleg sganio laser digidol ac argraffydd 3D;
  • Swît Ffitrwydd a Neuadd Chwaraeon yr Efail, ar gael i’r holl ddysgwyr;
  • Theatr yr Efail, cyfleuster proffesiynol hyblyg gyda’r cyfarpar sain, fideo a goleuadau diweddaraf;
  • swît dadansoddi chwaraeon, dwy gampfa a chyfleuster pwysau sy’n gartref i gyfarpar hyfforddi modern;
  • maes ymarfer chwaraeon pob tywydd o safon ryngwladol a thri maes chwarae glaswellt;
  • salonau trin gwallt a harddwch gwych;
  • stiwdio ddawns broffesiynol;
  • stiwdio deledu, ffilm a recordio;
  • Academi Gerddoriaeth Roland sy’n cynnwys y cyfarpar cerddorol electronig diweddaraf gan Roland;
  • Labordai gwyddoniaeth a chyfrifiadura gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol.
Mae gan bob ystafell ddosbarth y dechnoleg Wi-Fi angenrheidiol ar gyfer dysgu. Y campws yw’r brif ganolfan ar gyfer cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ogystal â mynediad i addysg uwch, diwydiannau creadigol, chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus, peirianneg, cyfrifiadura, busnes, teithio a thwristiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, a gwallt a harddwch.

Cyfleoedd yn Campws Graig

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gweld unrhyw rolau yr hoffech ymgeisio amdanynt nawr. Cofrestrwch eich diddordeb er mwyn i ni allu cysylltu â chi pan ddaw rôl addas sy’n bodloni eich meini prawf.

Cofrestru Eich Diddordeb