Campws Pibwrlwyd
Taith Rithwir yn campws Pibwrlwyd
Mae Pibwrlwyd yn gampws cyfeillgar mewn lleoliad gwledig ar gyrion tref farchnad Caerfyrddin sydd hefyd yn ganolfan fasnachol ar gyfer ardal fawr a ffyniannus.
Gwybodaeth am campws Pibwrlwyd
Mae’r campws yn gartref i ystod eang o bynciau cwricwlwm sy’n rhychwantu addysg bellach ac addysg uwch. Ar y campws mae’r prif weithgareddau yn cynnwys Celf a Dylunio, Gwyddor Anifeiliaid, Peirianneg Fodurol, Busnes a Rheolaeth, Arlwyo a Lletygarwch, Astudiaethau Ceffylau, Teithio & Thwristiaeth, Hyfforddi Athrawon a Nyrsio Milfeddygol. Caiff yr holl weithgareddau eu cefnogi’n dda gan adnoddau a chyfleusterau sy’n cynnwys:
- adeilad Astudiaethau Anifeiliaid a Cheffylau o'r radd flaenaf sy'n gartref i ymlusgiaid, pysgod ac amffibiaid
- arena farchogaeth dan do ac awyr agored gyda mynediad i'r anabl
- cyfleuster Celf, Dylunio a Ffasiwn pwrpasol
- gweithdai Modurol ardderchog
- cyfarpar TGCh a labordai modern
- bwyty hyfforddi Myrddin sydd ar agor i’r cyhoedd ac sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd a seminarau
- ffreutur fawr a chaffi
- Canolfan Ddysgu / Llyfrgell â stoc dda o lyfrau
Mae’r lleoliad, y cyfleusterau a’r staff i gyd yn creu cymuned ddysgu glòs ar y campws lle mae pawb yn gefnogol ac yn ofalgar tuag at anghenion y myfyrwyr.
Campws Pibwrlwyd
Cyfleoedd yn Campws Pibwrlwyd
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gweld unrhyw rolau yr hoffech ymgeisio amdanynt nawr. Cofrestrwch eich diddordeb er mwyn i ni allu cysylltu â chi pan ddaw rôl addas sy’n bodloni eich meini prawf.