Louis Dare

Rheolwr Arloesi ac E-ddysgu

Beth rydw i'n ei wneud yn Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion

Ymunais â Choleg Sir Gâr yn 2004 ac rwyf wedi mwynhau’n fawr y 19 mlynedd, sydd wedi cynnwys ystod eang o rolau a chyfrifoldebau.   Fy mrwdfrydedd yw cyflogadwyedd a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar ein cymuned leol. Yn fy rôl bresennol fel Rheolwr Arloesi ac e-Ddysgu, rwy’n gyfrifol am nifer o brosiectau a chontractau sy'n cefnogi dysgwyr sy’n oedolion yn ôl i mewn i’r gwaith, neu'n cefnogi dysgwyr sy’n oedolion i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd presennol.

Yn ogystal â fy rôl fel Rheolwr Arloesi ac e-Ddysgu, rwyf hefyd yn aelod o fwrdd llywodraethwyr y coleg ac yn falch o fod yn ymddiriedolwr y sefydliad, sy’n elusen gofrestredig. 

Pam Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion

Ers i mi ymuno â'r coleg, rwyf wedi ymwneud â nifer o rolau gwych sydd wedi fy arwain o fod yn Diwtor TG, a gefnogodd dysgwyr sy’n oedolion i ddefnyddio cyfrifiadur am y tro cyntaf, i ble rwyf i heddiw.  Rwyf wedi cael cefnogaeth lawn i ddatblygu fy hun ac roeddwn yn ffodus i gwblhau MA mewn Addysg o gwmpas fy rôl o ddydd i ddydd.

Rwyf wedi cael fy nghefnogi’n llawn i hybu fy mrwdfrydedd drwy fynd â’r coleg i mewn i nifer o feysydd addysg newydd er mwyn sicrhau prosiectau a chontractau newydd o fewn cyflogadwyedd a dysgu oedolion.  Mae cefnogaeth ac ymddiriedaeth o'r fath yn sail i ddiwylliant Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. 

Pwy ydw i?

Fel y soniais, rwy'n frwd iawn dros ddatblygu gweithlu ein cymuned leol.  Y tu allan i’r gwaith, mae fy niddordebau'n cynnwys cefnogi twristiaeth leol, sydd yn ei dro yn bwydo'n ôl i greu a datblygu swyddi.  Yn y coleg, rwyf bob amser yn edrych i ehangu a datblygu mentrau newydd sy’n cefnogi’r farchnad lafur a’r economi leol ac felly, os ydych yn chwilio am rôl gyffrous mewn adran amrywiol byddwn wrth fy modd yn clywed gennych.

Swyddi Byw Louis