Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau Cyffredin
Dyma restr o gwestiynau cyffredin gan ymgeiswyr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Pa mor hir mae'r broses yn ei chymryd?
Mae ein swyddi gwag fel arfer yn cael eu hysbysebu am tua 10-14 diwrnod. Unwaith bod y swydd wag wedi cau, bydd y panel dethol fel arfer yn dechrau'r broses o lunio rhestr fer o fewn 24 awr o'r dyddiad cau a'n nod yw eich diweddaru o fewn 2 ddiwrnod er mwyn rhoi gwybod i chi os ydych wedi cyrraedd y rhestr fer i gael cyfweliad, ai peidio. Yna byddwch yn derbyn eich gwahoddiad i gyfweliad. Fel arfer, cynhelir y rhan fwyaf o gyfweliadau tua 7 diwrnod ar ôl eich gwahoddiad, er dylai brasamcan o ddyddiad y cyfweliad fod wedi’i nodi ar yr hysbyseb swydd. At ei gilydd, mae'r broses gyfan yn cymryd tua 21 diwrnod. Fodd bynnag, er ein bod yn anelu at weithio o fewn yr amserlen hon, mae yna adegau pan all y broses gymryd mwy o amser. Os felly, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi.
Pryd ydych chi'n gofyn am eirdaon?
Nid ydym yn gofyn am eirdaon nes eich bod wedi derbyn eich cynnig ac wedi cwblhau rhan o'ch porth cyfarwyddo. Os ydych wedi derbyn cynnig ac wedi cwblhau eich proses gyfarwyddo gyda ni ond yr hoffech i ni aros cyn cysylltu â'ch canolwyr hyd nes y byddwch wedi siarad â nhw, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Mae cwestiwn gen i am fy nghais neu swydd wag, gyda phwy ddylwn gysylltu?
E-bostiwch HRrecruitment@colegsirgar.ac.uk, neu ffoniwch 01554 748000 ar gyfer pob ymholiad mewn perthynas â chais neu swydd wag.
Ni allaf ddod i fy nghyfweliad, beth allaf ei wneud?
Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol ar y dyddiad a roddwyd, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl drwy ateb yr e-bost yn eich gwahodd, neu ffoniwch ni ar 01554 748000. Er na allwn sicrhau y gallwn gynnig dyddiad arall, byddwn yn archwilio argaeledd y panel cyfweld i ddod o hyd i ddewis arall addas, os yn bosibl.
A oes unrhyw awgrymiadau gennych ar gyfer cwblhau fy nghais?
Fe'ch cynghorir i ddarllen y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn yn drylwyr cyn cwblhau eich cais. Mae pob penderfyniad ynghylch llunio rhestr fer wedi’i seilio ar eich ffurflen gais a sut rydych yn cyfeirio’n ôl at y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn. Ni fydd Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn gwneud rhagdybiaethau amdanoch chi a’ch cymwysterau, felly, mae’n bwysig eich bod yn cyfeirio’ch cais at y meini prawf hanfodol a dymunol, gan hefyd restru eich cymwysterau ar eich ffurflen gais.
A allaf gofrestru ar gyfer rhybuddion swydd ar gyfer swyddi gwag newydd yn y Coleg?
Gallwch, ewch ati i ymuno â'n cronfa dalent fel y gallwn anfon rhybuddion e-bost atoch ar gyfer eich meini prawf dewisol. Cliciwch yma i gofrestru, neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch HRrecruitment@colegsirgar.ac.uk.
Ym mha iaith ddylwn i wneud cais?
Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd unrhyw gais a wneir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sut mae cyfweliadau yn gweithio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion?
Bydd pob cyfweliad yn y Coleg yn gofyn i ymgeiswyr gael cyfweliad ffurfiol. Fel arfer, cynhelir hwn gyda'r rheolwr llinell, aelod o'n tîm AD, ac aelod o'r tîm lle mae’r swydd wag.
Os ydych yn gwneud cais am swydd ddarlithio, fel arfer bydd gofyn i chi gyflwyno sesiwn ficroaddysgu 15-20 munud, ochr yn ochr â chyfweliad ffurfiol fel rhan o'r broses. Ar gyfer eich sesiwn ficroaddysgu, gofynnir i chi gyflwyno gwers ar bwnc a roddir i chi, i grŵp bach o ddysgwyr. Byddwn yn rhoi crynodeb i chi o lefelau gallu’r dysgwyr, ynghyd â mynediad llawn i’n cyfarpar a thechnoleg ystafell ddosbarth.
A allaf gael adborth ar fy nghais/cyfweliad?
Gallwch, rydym bob amser yn hapus i roi adborth ar bob cais a/neu gyfweliad. Os hoffech gael adborth ar unrhyw gam o’ch cais, e-bostiwch HRrecruitment@colegsirgar.ac.uk a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi.
Mae adborth gen i am y broses recriwtio, i bwy ddylwn roi hwn?
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn gwerthfawrogi adborth gan bob ymgeisydd am eu profiad drwy gydol y broses. Rydym yn annog pob ymgeisydd i ymweld â'n Tudalennau Cwmni ar Glassdoor ac Indeed i gyflwyno eu hadolygiadau. Os oes cwyn neu bryder gennych am y broses, cysylltwch â’n Rheolwr Caffael Talent, Tom Braddock, drwy e-bost ar Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.
Pryd fyddaf yn clywed yn ôl er mwyn dysgu os wyf wedi cyrraedd y rhestr fer ai peidio?
Cewch eich hysbysu drwy e-bost am ganlyniad eich cais, p’un a ydych chi wedi cyrraedd y rhestr fer ai peidio. Ein nod yw gwneud hyn o fewn 2 ddiwrnod o'r dyddiad cau. Fodd bynnag, os bydd oedi a'i fod yn cymryd mwy na 2 ddiwrnod, byddwn yn anfon e-bost atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
A oes parcio am ddim gennych ar y campysau?
Oes, mae gan bob un o'n campysau barcio am ddim ar y safle.
A fydd angen gwiriad DBS arnaf?
Bydd, mae pob rôl o fewn y Coleg yn gofyn i chi gael gwiriad DBS manwl ac mae rhai rolau hefyd yn gofyn bod gennych gofrestriad y Cyngor Gweithlu Addysg (CGA). Os ydych yn llwyddiannus, byddwn yn trefnu'r rhain gyda chi trwy'ch proses gyfarwyddo, felly nid oes angen gwneud y rhain ymlaen llaw.
Rwyf wedi cael cynnig y rôl, pryd ydych chi eisiau i mi ddechrau?
Byddwn yn trefnu eich dyddiad dechrau yn unol â’ch cyfnod rhybudd o’ch rôl bresennol a/neu pan fydd eich gwiriadau cyn-cyflogaeth wedi’u cwblhau. Byddwn mewn cysylltiad â chi trwy gydol eich proses gyfarwyddo, felly bydd hyn yn cael ei drefnu a'i gytuno gyda chi.
Swyddi
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gweld unrhyw rolau yr hoffech ymgeisio amdanynt nawr. Cofrestrwch eich diddordeb er mwyn i ni allu cysylltu â chi pan ddaw rôl addas sy’n bodloni eich meini prawf.